Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Interim Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Wasanaeth Awyr Oddi Mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn
Mae gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru yn gysylltiad gwerthfawr rhwng gogledd a de Cymru, ac mae'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at ein huchelgais i ddarparu system trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy’n gofalu am fuddiannau Cymru.
Rwy’n croesawu'r adroddiad hwn ar y gwasanaeth, a’r ffaith bod y Pwyllgor yn cydnabod bod y gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â nifer o'r pryderon a fynegwyd yn yr adroddiad. Nod y gwaith hwn yw sicrhau bod gwasanaeth awyr y dyfodol yn cynnig gwasanaeth o ansawdd uwch a gwell gwerth am arian i bobl Cymru.
Dechreuwyd ar y gwaith er mwyn dyfarnu'r contract nesaf ar gyfer y gwasanaeth hwn, a fydd yn cychwyn ym mis Rhagfyr 2014, a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod darparwyr gwasanaeth priodol yn y sector yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr ymarfer caffael. Ar ôl sefydlu’r contract, bydd y gwaith o farchnata'r gwasanaethau'n effeithiol yn elfen hanfodol o'n hymdrechion i wrth-droi'r gostyngiad yn niferoedd y teithwyr - tueddiad a amlygir yn yr adroddiad hwn.
Mae fy ymateb manwl i bob un o'r argymhellion a wnaed fel a ganlyn:
Argymhelliad 1 Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth
Cymru ddefnyddio ffynhonnell annibynnol i wirio'r data ar nifer y
teithwyr sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Awyr ac y dylai‘r data ar
niferoedd y teithwyr gael ei gyhoeddi‘n rheolaidd yn y dyfodol.
(Tudalen 12)
Derbyniwyd Bydd Llywodraeth Cymru’n nodi, mewn unrhyw gontract gwasanaeth awyr yn y dyfodol, ei bod yn ofynnol i niferoedd y teithwyr fod yn destun proses archwilio allanol ac annibynnol. Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi niferoedd teithwyr bob 12 mis, yn seiliedig ar y gofynion yn y contract nesaf ynglŷn â chyflwyno adroddiadau.
Goblygiadau Cost. Caiff y gofyniad hwn ei gynnwys yn y contract nesaf, a fydd yn destun proses dendro gystadleuol Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwerth am arian. Ar hyn o bryd, nid yw cost y gofyniad hwn yn hysbys.
Argymhelliad 2 Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru
fonitro unrhyw anghysondebau yn y dyfodol rhwng y data a roddir gan
y cwmni awyr sy‘n gweithredu‘r gwasanaeth a‘r data a roddir gan y
CAA. (Tudalen 12)
Derbyniwyd Yn ogystal â'r cynigion ar gyfer cynnal archwiliad annibynnol o niferoedd y teithwyr, byddwn yn monitro'r data a gyflwynir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) i sicrhau bod anghysondebau rhwng y ffynonellau gwybodaeth yn cael eu canfod a'u hymchwilio o fewn cyfnod rhesymol o amser.
Goblygiadau cost. Disgwylir na fydd unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran adnoddau i Lywodraeth Cymru, gan y bydd y gwaith yn cael ei gyflawni fel rhan o swyddogaeth rheoli contract y gwasanaeth awyr.
Argymhelliad 3 Er ei fod yn nodi‘r cynnydd yn ddiweddar yn yr
archebion ymlaen llaw, mae‘r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth
Cymru gomisiynu ymchwil annibynnol i'r duedd yn y tymor hirach, sy‘n
dangos gostyngiad yn niferoedd y teithwyr. (Tudalen 14)
Derbyniwyd. Cyn cyhoeddi’r adroddiad interim, penodwyd cwmni ymgynghori annibynnol i adolygu'r gwasanaeth awyr er mwyn bwydo’r broses gaffael sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd, ac a oedd yn cynnwys asesiad o’r tueddiad tymor hir o ran niferoedd teithwyr. Byddwn yn parhau i fonitro'r defnydd a wneir o'r gwasanaeth awyr am weddill cyfnod y contract presennol ac unrhyw gontract yn y dyfodol fel rhan o’n cyfrifoldebau am reoli’r contract.
Goblygiadau cost. Penodwyd ymgynghorwyr am £47,500 heb gynnwys TAW.
Argymhelliad 4 Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth
Cymru gynnwys gofyniad penodol mewn unrhyw dendr yn y dyfodol,
ynglŷn â rhaglen farchnata gynhwysfawr gan y cynigydd llwyddiannus.
Dylai gwerthusiad o‘r rhaglen farchnata hon gael ei ymgorffori yng
ngwerthusiad cyffredinol y cynigion a chael ei bennu mewn unrhyw
gontract wedyn. (Tudalen 15)
Derbyniwyd Bydd Llywodraeth Cymru’n nodi, mewn unrhyw gontract gwasanaeth awyr yn y dyfodol, ei bod yn ofynnol sefydlu strategaeth farchnata gynhwysfawr. Bydd hon yn cael ei hasesu wrth werthuso’r cynigion, yn rhan o'r broses o ddyfarnu’r contract.
Goblygiadau cost. Caiff cost marchnata'r gwasanaeth awyr ei chynnwys yn y contract nesaf, a fydd yn destun proses dendro gystadleuol Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwerth am arian. Bydd y gost derfynol yn cael ei phennu gan raddfa'r ymgyrch farchnata y mae’r darpar ddarparwyr gwasanaeth yn cynnig ei chynnal er mwyn cyflwyno'r gwelliannau angenrheidiol.
Argymhelliad 5 Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai gwybodaeth am y
teithwyr sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Awyr gael ei chasglu er mwyn
canfod y rheswm dros y daith (e.e. busnes neu hamddden) ac ym mha
sectorau y mae'r teithwyr busnes yn cael eu cyflogi ac i ba raddau y
mae‘r teithiau yn cael eu hariannu gan y trethdalwr. Dylai‘r wybodaeth
hon gael ei chyhoeddi a‘i chasglu ar sail reolaidd. (Tudalen 16)
Derbyniwyd Bydd Llywodraeth Cymru’n nodi, mewn unrhyw gontract gwasanaeth awyr yn y dyfodol, ei bod yn ofynnol cynnal arolwg teithwyr yn rheolaidd er mwyn casglu gwybodaeth am bwrpas eu taith, ym mha sectorau y maent yn cael eu cyflogi, a pha mor fodlon yw’r teithwyr. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth o'r arolwg yn rheolaidd. Nid ydym wedi penderfynu pa mor aml eto, ond ddim llai na phob blwyddyn.
Goblygiadau cost. Caiff cost cynnal arolygon ymhlith cwsmeriaid y gwasanaeth awyr ei chynnwys yn y contract nesaf, a fydd yn destun proses dendro gystadleuol Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwerth am arian. Bydd cost cynnal yr arolygon cwsmeriaid yn gymesur â chost gyffredinol y gwasanaeth a ddarperir.
Argymhelliad 6 Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth
Cymru gyhoeddi rhychwant, cynnwys, methodoleg ac amserlen lawn
adolygiad ARUP. Rydym yn argymell ymhellach y dylai canfyddiadau'r
adolygiad gael eu cyhoeddi pan fyddant ar gael, er mwyn tawelu‘r
pryderon sydd gan y Pwyllgor ynglŷn â‘r wybodaeth a ddefnyddir i
lywio penderfyniadau ar ddyfodol y Gwasanaeth Awyr. (Tudalen 19)
Derbyniwyd mewn egwyddor – Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad a gynhelir o gontract y gwasanaeth awyr, hynny ar ôl cwblhau’r broses gaffael bresennol ym mis Rhagfyr. Bydd gwybodaeth na fyddai’n briodol ei chyhoeddi o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth yn cael ei chadw heb ei chyhoeddi.
Goblygiadau cost. Dim wedi eu canfod
Argymhelliad 7 O gofio‘r pryderon a fynegwyd ynglŷn â‘r potensial
ar gyfer diffyg eglurder ynghylch rhwymedigaethau o dan drefniadau
contract ar y cyd, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gadw golwg ar yr ymchwiliad i‘r ddamwain awyr yn Cork a
myfyrio ar y canlyniad mewn unrhyw gontract Gwasanaeth Awyr yn y
dyfodol. (Tudalen 23)
Derbyniwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y rhwymedigaethau o dan drefniadau'r contract presennol a'r argymhellion yn yr adroddiad terfynol gan yr Irish Air Accident Investigation Unit i ddamwain awyren Corc. Bydd unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu hymgorffori i unrhyw gytundeb a wneir mewn cysylltiad â dyfarnu contract newydd ar gyfer y gwasanaeth a fydd yn cychwyn ym mis Rhagfyr 2014. Bydd y camau caffael a dyfarniad dilynol y contract yn digwydd yn unol â rheoliadau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd.
Goblygiadau cost. Dim wedi eu canfod
Argymhelliad 8 Os bydd Llywodraeth Cymru‘n tendro ar gyfer
Gwasanaeth Awyr newydd, mae‘r Pwyllgr yn argymell y dylai pob cam
posibl gael ei gymryd (megis ymgynghori ymlaen llaw) i gynyddu nifer
yr ymgeiswyr am y contract heb gyfaddawdu‘r mserlen gyffredinol cyn
i‘r contract presennol ddod i ben. (Tudalen 26)
Derbyniwyd. Cyhoeddwyd y gwahoddiad i dendro am gontract y gwasanaeth awyr newydd ar 11 Awst. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno bidiau yw 10 Hydref. Mae camau’n cael eu cymryd yn y cyfnod hwn i sicrhau bod cyflenwyr sydd â'r gallu i gyflwyno'r gwasanaeth yn cael gwybod bod y tendr wedi’i gyhoeddi er mwyn iddynt gael cyfle i gymryd rhan yn y broses gaffael.
Goblygiadau cost. Dim costau ychwanegol wedi eu canfod.
Argymhelliad 9 O gofio‘r hyblygrwydd newydd o dan reolau‘r
Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus, mae‘r Pwyllgor yn argymell y
dylai Llywodraeth Cymru edrych ar opsiynau posibl i gynyddu buddion
a chyfleoedd y Gwasanaeth Awyr i‘r eithaf yn y dyfodol. (Tudalen 33)
Derbyniwyd Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gadw golwg ac ymchwilio i bob cyfle i gynyddu buddiannau’r gwasanaeth o fewn y cyfyngiadau a osodir gan reolau’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus.
Goblygiadau cost. Dim costau ychwanegol wedi eu canfod
Edwina Hart MBE CStJ AC